Wayne Shorter
Gwedd
Wayne Shorter | |
---|---|
Shorter yn 1980 | |
Y Cefndir | |
Ganwyd | Newark, New Jersey, U.D.A. | 25 Awst 1933
Math o Gerddoriaeth | jazz, jazz fusion |
Gwaith | Cerddor, cyfansoddwr |
Offeryn/nau | Sacsoffon tenor a soprano |
Cyfnod perfformio | 1958–presennol |
Label | Blue Note, Columbia, Verve |
Perff'au eraill | Art Blakey, Miles Davis, Herbie Hancock, Freddie Hubbard, Joni Mitchell, John Pattitucci, Weather Report, Joe Zawinul |
Gwefan | wayneshorter.com |
Sacsoffonydd a chyfansoddwr jazz o bwys yw Wayne Shorter (ganwyd 25 Awst 1933; m. 2 Mawrth 2023). Daeth i'r amlwg ym mand Art Blakey yn y 1960au cynnar cyn ennill enwogrwydd sylweddol, yn gyntaf yn aelod o fandiau Miles Davis rhwng 1964 a 1970 ac ers hynny, fel un o gyd-arweinwyr y band Weather Report ac ar nifer o recordiau o dan ei enw ef ei hunan.
Yn ogystal â bod yn sacsoffonydd dylanwadol, Shorter yw un o gyfansoddwyr mwyaf blaenllaw jazz ers y 60au. Roedd lle blaenllaw i'w gyfansoddiadau ym mherfformiadau bandiau Blakey a Davis, ac ef oedd un o brif gyfansoddwyr Weather Report.
Recordiau (detholiad)
[golygu | golygu cod]- Speak no Evil, 1964
- Adam's Apple, 1966
- Atlantis, 1985
- Footprints Live!, 2001
Gyda Weather Report:
- Weather Report, 1970
- Heavy Weather, 1977
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]Categorïau:
- Genedigaethau 1933
- Marwolaethau 2023
- Cerddorion Affricanaidd-Americanaidd
- Cyfansoddwyr yr 20fed ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cyfansoddwyr yr 21ain ganrif o'r Unol Daleithiau
- Cyfansoddwyr jazz o'r Unol Daleithiau
- Pobl a aned yn New Jersey
- Pobl o Newark, New Jersey
- Pobl fu farw yn Los Angeles
- Sacsoffonyddion o'r Unol Daleithiau